With Horatio’s Garden Wales at the Welsh Spinal Cord Injury Rehabilitation Centre in University Hospital, Llandough due to open in the autumn of this year, we’re beginning our search for a new Head Gardener.

If you think this could be the job for you, please read more below. You have until Friday 11th June to apply!

***

Job Description

We are seeking an enthusiastic, experienced head gardener for a prestigious role in a new Sarah Price designed hospital garden project at Cardiff’s only spinal injury centre. You will be working closely with renowned garden designer and Chelsea gold medal winning Sarah Price and her team, to plant and establish the new garden which is due to open in October. The project has had widespread publicity throughout the fundraising and development and will trail blaze the benefits of gardens and health.

Horatio’s Garden is a national charity creating and nurturing beautifully designed gardens in NHS’s spinal injury centres. The head gardener will be responsible for leading the project and caring for the garden and the patients who use it. You will collaborate with the rehabilitation centre’s staff, to create a vibrant sanctuary which meets the needs of the charities beneficiaries.

The garden is a contemporary masterpiece with two interconnected gardens – one for patients with spinal injuries and the other for patients with brain injuries. A large garden room designed by renowned architects 6A will give patients a warm sheltered place to enjoy the garden in all weather.

The fully accessible garden will echo gardens found in the Welsh landscape with a bright flower garden, an orchard, a moss garden, wildflower garden and a sunny terraced area.

There is a large accessible glasshouse, an area of raised beds for patients to get involved with gardening and a warm Head Gardeners office looking out over the garden.

The Head Gardener will join a team of five other dedicated Head Gardeners across the charity’s existing projects. They will work with a part-time garden administrator and a team of volunteers to nurture the beautiful space for patients and their visitors. Sarah Price will be closely involved as the garden grows, visiting regularly and offering advice.

You will be responsible for delivering a therapeutic gardening programme as well as arts activities for patients in the garden, supported by the charity’s Arts Co-ordinator. With the garden administrator you will also arrange social events for patients and their families in co-ordination with the rehabilitation centre’s team.

The role is a fantastic opportunity for a confident gardener with an interest in gardens and wellbeing and a passion for people as well as plants. We welcome informal enquiries.

The post is available in mid-August to coincide with planting the garden. The role is flexible for 4-5 days per week. Salary depending on experience approx. £30,000- £31,000 FTE.

The project is located at the Welsh Spinal Cord Rehabilitation Centre, Llandough Hospital, Cardiff CF64 2XX

 

Knowledge, Skills and Experience

Essential

• Practical experience as a gardener, including experience of garden management

• Management of and working with, volunteers.

• Empathic, kind and a great communicator

• Experience of leading and managing teams.

• Confident public speaker

• Able to manage budgets and petty cash.

 

Desirable

• RHS Level 2 Diploma in Principles and Practices of Horticulture.

• Post Graduate Diploma in Social and Therapeutic Horticulture.

• Experience of therapeutic activities.

• Good IT skills, specifically proficient with Microsoft Office 365: Outlook, Word, Excel, PowerPoint,

• Digital photography

• Working in the voluntary sector.

• NHS experience or work in a health care setting.

• Supplier management and ordering.

 

Qualities

• Able to meet the physical demands of the job.

• Willingness to show commitment and flexibility in working practice.

• Self-motivated and capable of working with the minimum of direction but understanding the limits of your knowledge and able to seek advice when required.

 

APPLICATION

Please write a one page covering letter explaining why you would be suited to this role and a one page CV to jacqui@horatiosgarden.org.uk

Job Type: Permanent

We are an equal opportunity employer and welcome applications from all sectors of society.

NOTE: DBS, medical and reference checks will be conducted as part of the recruitment process.

***

Disgrifiad Swydd

Rydym yn chwilio am brif arddwr brwdfrydig, profiadol ar gyfer swydd bwysig mewn prosiect gardd ysbyty newydd a ddyluniwyd gan Sarah Price yn yr unig ganolfan ar gyfer anafiadau i’r asgwrn cefn yng Nghaerdydd. Byddwch yn gweithio’n agos gyda Sarah Price, y dylunydd gardd enwog sydd wedi ennill medal aur Chelsea a’i thîm, i blannu a sefydlu’r ardd newydd fydd yn agor ym mis Hydref. Mae’r prosiect wedi cael cyhoeddusrwydd eang yn ystod y broses o godi arian a datblygu’r prosiect a bydd yn arloesi o ran y budd y mae gerddi’n ei gynnig i iechyd.

Mae Gardd Horatio yn elusen genedlaethol sy’n creu ac yn gofalu am erddi sydd wedi’u dylunio’n hyfryd yng nghanolfannau anafiadau i’r asgwrn cefn y GIG. Bydd y prif arddwr yn gyfrifol am arwain y prosiect a gofalu am yr ardd a’r cleifion sy’n ei defnyddio. Byddwch yn cydweithio â staff y ganolfan adsefydlu, i greu noddfa fywiog sy’n diwallu anghenion buddiolwyr yr elusennau.

Mae’r ardd yn gampwaith cyfoes gyda dwy ardd sy’n cysylltu â’i gilydd – un ar gyfer cleifion ag anafiadau i’r asgwrn cefn a’r llall ar gyfer cleifion ag anafiadau i’r ymennydd. Bydd ystafell ardd fawr a ddyluniwyd gan benseiri enwog 6A yn rhoi lle cysgodol a chynnes i gleifion fwynhau’r ardd ym mhob tywydd.

Bydd yr ardd gwbl hygyrch yn adleisio gerddi a geir yn nhirwedd Cymru gyda gardd flodau llachar, perllan, gardd fwsogl, gardd blodau gwyllt a theras heulog.

Mae yna dŷ gwydr mawr hygyrch, ardal o welyau uchel i gleifion fynd ati i arddio a swyddfa gynnes y Prif Arddwr sy’n edrych allan dros yr ardd.

Bydd y Prif Arddwr yn ymuno â thîm o bum Prif Arddwr ymroddedig arall ar draws prosiectau presennol yr elusen. Byddant yn gweithio gyda gweinyddwr gardd rhan-amser a thîm o wirfoddolwyr i ofalu am y lle hardd i gleifion a’u hymwelwyr. Bydd Sarah Price yn chwarae rhan agos wrth i’r ardd dyfu, gan ymweld yn rheolaidd a chynnig cyngor.

Byddwch yn gyfrifol am ddarparu rhaglen arddio therapiwtig yn ogystal â gweithgareddau celfyddydol i gleifion yn yr ardd, gyda chefnogaeth Cydlynydd Celfyddydau’r elusen. Gyda gweinyddwr yr ardd byddwch hefyd yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol i gleifion a’u teuluoedd mewn cydgysylltiad â thîm y ganolfan adsefydlu.

Mae’r swydd yn gyfle gwych i arddwr hyderus sydd â diddordeb mewn gerddi a lles ac angerdd am bobl yn ogystal â phlanhigion. Mae croeso i chi wneud ymholiadau anffurfiol.

Mae’r swydd ar gael ganol mis Awst i gyd-fynd ag adeg plannu’r ardd. Mae’r swydd yn hyblyg – 4-5 diwrnod yr wythnos. Cyflog yn dibynnu ar brofiad oddeutu £30,000- £31,000 cyfwerth ag amser llawn.

Mae’r prosiect wedi’i leoli yng Nghanolfan Cymru ar gyfer Adsefydlu yn dilyn anaf i Fadruddyn y Cefn, Ysbyty Llandochau, Caerdydd CF64 2XX

 

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad

Hanfodol

• Profiad ymarferol fel garddwr, gan gynnwys profiad o reoli gerddi

• Rheoli gwirfoddolwyr a gweithio gyda nhw.

• Dangos empathi, yn garedig ac yn gyfathrebwr gwych

• Profiad o arwain a rheoli timau.

• Siaradwr cyhoeddus hyderus

• Yn gallu rheoli cyllidebau ac arian mân.

 

Dymunol

• Diploma Lefel 2 RHS mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth.

• Diploma Ôl-raddedig mewn Garddwriaeth Gymdeithasol a Therapiwtig.

• Profiad o weithgareddau therapiwtig.

• Sgiliau TG da, gyda phrofiad penodol o ddefnyddio Microsoft Office 365: Outlook, Word, Excel, PowerPoint,

• Ffotograffiaeth ddigidol

• Gweithio yn y sector gwirfoddol.

• Profiad yn y GIG neu weithio mewn lleoliad gofal iechyd.

• Rheoli cyflenwyr ac archebu.

 

Rhinweddau

• Yn gallu bodloni gofynion corfforol y swydd.

• Parodrwydd i ddangos ymrwymiad a hyblygrwydd o ran arferion gwaith.

• Yn frwdfrydig ac yn gallu gweithio heb lawer o gyfarwyddyd ond yn deall terfynau eich gwybodaeth ac yn gallu ceisio cyngor pan fo angen.

 

YMGEISIO

Ysgrifennwch lythyr cyflwyno un dudalen yn egluro pam y byddech chi’n addas ar gyfer y swydd hon a CV un dudalen, a’u hanfon at jacqui@horatiosgarden.org.uk

Math o Swydd: Parhaol

Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob sector o’r gymdeithas.

NODYN: Bydd gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, meddygol a geirdaon yn cael eu cynnal fel rhan o’r broses recriwtio.