Gwyliwch ein Fideo newydd am Apêl Cymru Horatio’s Garden drwy glicio ar ‘Chwarae’ yn y ffotograff ar y dde
Mae Canolfan Cymru ar gyfer Adsefydlu yn dilyn Anaf i Fadruddyn y Cefn yn un o 11 o ganolfannau penodedig ar gyfer yr asgwrn cefn yn y DU. Mae’n derbyn cleifion o Dde a Chanolbarth Cymru, Swydd Gaerloyw, Gwlad yr Haf, Dyfnaint a Chernyw, ond rhoddir blaenoriaeth i gleifion o Gymru.
Mae’r ganolfan wedi’i lleoli yn Ysbyty Rookwood ar hyn o bryd, ond bydd yn cael ei symud i Ganolfan Asgwrn Cefn a Niwrolegol newydd bwrpasol yn Ysbyty Athrofaol, Llandochau. Disgwylir i’r ganolfan hon agor yn 2021, ac fel rhan o’r ailddatblygiad, mae Horatio’s Garden wedi cael gwahoddiad i greu gardd newydd i’r cleifion.
Cynhelir y prosiect hwn ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a chaiff chostau’r gwaith paratoi a hwyluso eu talu gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Bydd y ganolfan newydd yn darparu gwasanaeth arbenigol i gleifion ag anafiadau i’r asgwrn cefn a gwasanaeth niwroadsefydlu arbenigol. Bydd hefyd yn cynnwys cyfleuster byw yn annibynnol i gleifion sy’n paratoi i fynd adref. Bydd cyfanswm o 50 o welyau yn y ganolfan.
“Rwy’n credu yn gadarn y bydd yr Ardd o fudd enfawr i’n cleifion yn gorfforol ac yn seicolegol. Rwyf hefyd yn sicr y bydd ein staff, sy’n gwneud gwaith mor wych yn gofalu am eu cleifion, hefyd yn cael budd o’r amgylchedd y bydd yr Ardd yn ei ddarparu. Rydym ni ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn edrych ymlaen yn arw iawn at agor Horatio’s Garden yn Llandochau maes o law”. – Yr Athro Charles Janczewski, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Dros dro
Lansiwyd Apêl Cymru gennym yn hydref 2019, gyda’r nod o godi’r £920,000 roedd ei angen o fewn blwyddyn. Yn anhygoel, mae gwahanol gefnogwyr eisoes wedi ein helpu i godi dros 80% ar gyfer y prosiect, ond byddwn yn parhau i godi arian mewn nifer o ffyrdd i gael y swm sy’n weddill. Ar gais yr ysbyty, mae cynllun a chyllideb yr ardd yn cynnwys ardal i’r cleifion ar y ward adsefydlu niwrolegol. Ni fydd modd mynd o un ardal o’r ardd i’r llall o ganlyniad i anghenion y cleifion a fydd yn eu defnyddio, sy’n wahanol iawn. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi addo talu’r gyfran o’r costau cyfalaf sydd ei hangen ar gyfer yr ardd niwrolegol a’r costau rhedeg parhaus.
Gyda’ch cefnogaeth chi, rydym yn gobeithio dechrau adeiladu’r ardd yn 2021, fel y bydd yn barod i gleifion a’u hanwyliaid ei mwynhau erbyn haf 2021.
“Pan glywais i fod Horatio’s Garden yn mynd i gael ei adeiladu’n bwrpasol yng Nghymru yn Ysbyty Llandochau, roedd yn anodd i mi gyfleu fy nheimladau. Rwy’n gwybod o’m profiad fy hun beth mae’n ei olygu i allu mynd allan i deimlo’r awyr iach. Roedd gallu bod gyda fy nheulu i ffwrdd o’r amgylchedd clinigol yn help mawr i mi wrth adsefydlu. Bydd yn wych cael gardd bwrpasol, sy’n ystyried yr holl fanylion bach er mwyn sicrhau bod pobl â symudedd isel yn gallu ei defnyddio’n hawdd.” – Rhian, cyn-glaf Canolfan Cymru ar gyfer Adsefydlu yn dilyn Anaf i Fadruddyn y Cefn
I ddarllen mwy am ein hapêl i godi cyfalaf tuag at Horatio’s Garden Cymru, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Taflen Apêl Caerdydd
I gefnogi’r apêl, rhowch arian drwy glicio’r botwm yng nghornel dde uchaf y dudalen hon. Neu, gallwch anfon rhodd drwy’r post i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig: 2 Throope Down Office, Blandford Road, Coombe Bissett, Salisbury, SP5 4LN, neu ffoniwch 1722 326834 i roi gyda cherdyn credyd.
Os byddwch o’r farn y gallwch ein helpu i godi arian, neu os hoffech wirfoddoli, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i info@horatiosgarden.org.uk, neu ffoniwch 01722 326834.
Diolch i bawb sydd wedi cefnogi chweched prosiect Horatio’s Garden hyd yn hyn.
Mae Sarah Price yn ddylunydd gerddi o Gymru sydd wedi ennill gwobrau ac wedi dilyn llwybr gyrfa uchel ei pharch. Mae’n enwog am ei steil cynllunio artistig a naturiol mewn prosiectau megis y Parc Olympaidd a gardd yng Ngaleri Gelf Whitworth ym Manceinion. Bydd Sarah yn gweithio i greu lloches gardd brydferth i gleifion, a bydd yn cydweithio â phenseiri o 6a i greu pafiliwn i’r ardd.
Mae Sarah wrthi’n datblygu’r cynlluniau ar hyn o bryd, a byddwn yn parhau i’w rhannu â chi dros y misoedd nesaf.
Bydd yr ardd yn hawdd ei chyrraedd o’r ganolfan anafiadau i’r asgwrn cefn drwy ddrysau awtomatig, fel y bydd cleifion mewn gwelyau a chadeiriau olwyn yn gallu defnyddio’r ardal gyda’u ffrindiau a’u teulu, neu fel man i gael llonydd.
Bydd gwrychoedd ar ffurf cymylau yn creu trothwy gwyrdd a fydd yn dangos yn syth eich bod wedi gadael amgylchedd y ward. Bydd llwybrau gwastad o baneli concrit sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn yn ymdroelli ar hyd y dirwedd donnog o lwyni, coed a phlanhigion prydferth.
Bydd pwll dŵr adlewyrchol ar lefel uwch a seddi wedi’u gwneud o dderw gwyrdd yn cynnig mannau prydferth o lonyddwch i bawb sy’n dod i’r ardd. Bydd pafiliwn yr ardd yn cynnig cynhesrwydd, loches a chyfleoedd i gymdeithasu, ac yn golygu bod modd defnyddio’r ardd drwy gydol y flwyddyn. Bydd ymdeimlad cartrefol yn yr ardal fewnol, a chaiff ei chynllunio i fod yn gyfforddus, yn hyblyg ac yn hygyrch, gydag ardal gegin a bwrdd lluosogi planhigion hawdd eu defnyddio.
Y pafiliwn bydd canolbwynt y gwaith tyfu yn yr ardd, gan gynnig ardal ar gyfer therapi gardd. Bydd y planhigion yn meithrin diddordeb a bioamrywiaeth drwy gydol y flwyddyn, gyda bwydwyr adar a bocsys nythu yn denu adar gwyllt i’r ardd. Bydd hefyd ardd ar y to yn agos iawn at y ward, a neilltuir yn arbennig i gleifion dibyniaeth uchel ei defnyddio yn eu gwelyau.
Bydd yr elusen yn cymryd prydles â’r Ymddiriedolaeth GIG i gael y tir, ac unwaith y bydd yr ardd wedi agor, bydd Horatio’s Garden yn ymrwymo i ariannu’r tîm sydd ei angen i ofalu am yr ardd a threfnu digwyddiadau a gweithgareddau i gynnig agwedd dyner ar adsefydlu i gleifion sy’n treulio misoedd yn yr ysbyty.
Chair of Hywel Dda University Health Board
Maria is a Solicitor specialising in public law and human rights. She was formerly Senior Director of Consumer Focus Wales, a consumer statutory watchdog, championing consumer rights in the energy markets, fuel poverty, park homes and food safety. She headed the UK Investigations team. Prior to this Maria was Deputy/Acting Children`s Commissioner for Wales advocating for children rights in education, child protection, asylum and health in Wales, UK and Europe.
She has worked for local authorities in Wales as well as private practice and had her own legal practice. Maria ensured children had a voice working for the Children Society and NCH Action for Children. She was an independent children’s advocate in children's homes and has chaired Inquiries and the Standards Committee of Carmarthenshire County Council.
Maria was Director of Age Concern Ceredigion championing the rights of older people, and she lectured in law at the Universities of Glamorgan and Birmingham. Maria is also a lay member of the Council of the University of Cardiff, Chair of the Welsh NHS Confederation, trustee of the National Museum of Wales, Amgueddfa Cymru, and has recently been appointed to the Social Care Wales Board.
Former Rugby Union player
"Having spent a lifetime playing, watching and supporting rugby, I know having a Horatio's Garden would have meant a lot to many friends who have experienced spinal injuries whilst playing the beloved game. It is a privilege to be involved in this project."
High Sheriff of South Glamorgan
"I have always known how important access to fresh air, sunshine and an outside garden space with trees and plants is to the wellbeing of long stay patients since working in the Rookwood Hospital rehabilitation unit many years ago.
The outdoor pavilion and garden to be provided by Horatio's Garden at the new centre in University Hospital Llandough in Cardiff will enhance the quality of life and rehabilitation programmes for our Welsh patients and their families.
This facility will aid recovery for these families coming to terms with life-changing challenges and will provide ongoing opportunities and therapies for patients to access.
It is so important to have such a facility at this new centre of excellence for Welsh patients."
Former patient and passionate gardener
Bishop of Llandaff
Previous Lord Lieutenant of Powys
"I am sure that Horatio would be so happy to know that Horatio's Garden Cardiff will bring so much to the lives of all those affected by spinal injury. With the wind, sun, trees, flowers and wildlife, I cannot think of a more healing place to be."
Artist
"Gardens really are healing places and for such an important medical facility I am delighted to support the creation of a first class modern garden. I have no doubt that it will be a marvellous place of therapeutic beauty."
Nid yw gwaith adeiladu Horatio's Garden Cymru wedi dechrau eto, ond os hoffech wybod rhagor, ffoniwch y swyddfa ar 01722 326834 neu e-bostiwch info@horatiosgarden.org.uk.